Class Central is learner-supported. When you buy through links on our site, we may earn an affiliate commission.

The Open University

Academi Arian MSE

The Open University via OpenLearn

Overview

Mae'r Brifysgol Agored wedi ymuno â MoneySavingExpert (MSE) i gynhyrchu'r cwrs rhad ac am ddim newydd hwn i roi'r sgiliau a'r wybodaeth i chi feistroli eich arian. Ysgrifennwyd y cwrs gan y Brifysgol Atodol, gyda chyngor ac arweiniad MSE. Cynhyrchwyd y cwrs hwn yn Saesneg yn wreiddiol ac mae wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg gan y Brifysgol Agored.Gyda fideos, sain, cwisiau a gweithgareddau, mae'r cwrs yn cwmpasu holl agweddau allweddol cyllid personol mewn chwe sesiwn astudio, ac mae pob un yn cymryd tua dwy awr i'w cwblhau.Mae'r cwrs yn dechrau drwy edrych ar sut i fod â synnwyr cyffredin wrth wario arian ac ar y pwysau ymddygiadol a marchnata sy'n ceisio dylanwadu ar yr hyn y mae defnyddwyr yn ei brynu.Yna, mae'n edrych ar gyllidebu ac effaith treth ar gyllid cartrefi.Mae benthyca arian yn rhywbeth y mae bron pob aelwyd yn gyfarwydd ag ef ond gall achosi problemau ariannol. Mae'r cwrs yn esbonio sut i fenthyg arian yn synhwyrol os oes angen, boed yn fenthyciad i brynu car neu forgais i brynu eich cartref.Ydych chi eisiau cynilo neu fuddsoddi arian? Mae'r cwrs yn edrych ar gyfrifon cynilo syml ond hefyd buddsoddiadau fel cyfranddaliadau, nwyddau neu eiddo. Mae'n esbonio'r hyn sy'n gysylltiedig â'r risgiau rydych chi'n eu hamlygu wrth i chi chwilio am elw uwch ar eich arian.Mae'r cwrs yn gorffen drwy fynd i'r afael â chymhlethdodau pensiynau. Bydd yn eich helpu i feddwl am eich opsiynau wrth ymddeol, fel beth fydd cyfanswm eich pensiwn y wladwriaeth, ategu hyn â phensiwn galwedigaethol neu bersonol, a'r hyn y gallwch ei wneud os nad yw eich darpariaeth bensiwn yn ddigonol ar gyfer yr hyn sydd ei angen arnoch. Mae'r argyfwng costau byw presennol sy'n codi o ganlyniad i'r cynnydd sydyn mewn prisiau ynni a hefyd gost gynyddol hanfodion eraill wedi ei gwneud hi’n bwysicach fyth eich bod yn mynd i'r afael â'ch arian personol. Drwy'r cwrs hwn byddwch yn gallu gwneud hynny.TrawsgrifiadBydd cofrestru ar y cwrs yn rhoi cyfle i chi ennill bathodyn digidol y Brifysgol Agored – mae hyn, ynghyd â datganiad cyfranogiad OpenLearn, yn gyfystyr â'r cymhwyster y mae Martin Lewis yn cyfeirio ato yn y fideo. Nid yw bathodynnau wedi'u hachredu gan y Brifysgol Agored ond maent yn ffordd wych o ddangos eich diddordeb yn y pwnc a'ch ymrwymiad i'ch gyrfa, ac i ddarparu tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gallwch reoli eich bathodynnau digidol ar-lein o My OpenLearn. Yn ogystal, gallwch lawrlwytho ac argraffu eich datganiad cyfranogiad OpenLearn – sydd hefyd yn dangos eich bathodyn Prifysgol Agored.Byddai'r Brifysgol Agored wir yn gwerthfawrogi ychydig funudau o'ch amser i ddweud wrthym amdanoch eich hun a'ch disgwyliadau ar gyfer y cwrs cyn i chi ddechrau, yn ein harolwg dechrau cwrs dewisol.  Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r cwrs byddem hefyd yn gwerthfawrogi eich adborth a'ch awgrymiadau ar gyfer gwella i'r dyfodol, yn ein harolwg diwedd y cwrs dewisol. Bydd cymryd rhan yn gwbl gyfrinachol ac ni fyddwn yn trosglwyddo eich manylion i eraill.This course is accredited by the CPD Standards Office. It can be used to provide evidence of continuing professional development and on successful completion of the course you will be awarded 12 CPD points. Evidence of your CPD achievement is provided on the free Statement of Participation awarded on completion.Anyone wishing to provide evidence of their enrolment on this course is able to do so by sharing their Activity Record on their OpenLearn Profile, which is available before completion of the course and earning of the Statement of Participation.

Syllabus

  • Cyflwyniad a chanllawiau
  • Cyflwyniad a chanllawiau
  • Beth yw cwrs â bathodyn?
  • Sut mae cael bathodyn
  • Acknowledgements
  • Sesiwn1Sesiwn 1: Gwneud penderfyniadau gwario da
  • Cyflwyniad
  • 1 Beth yw eich personoliaeth ariannol?
  • 2 Y dylanwadau cymdeithasol ar wario
  • 3 Gallai eich arferion amharu ar eich dewisiadau gwario
  • 3.1 Dewis dwyn buddion ariannol ymlaen a gohirio gwariant
  • 3.2 Dewis symlrwydd yn hytrach na gwerth gorau
  • 3.3 Peidio â gwerthuso’r dystiolaeth yn iawn wrth brynu pethau
  • 3.4 Gall gohirio’r penderfyniad fod yn benderfyniad (gwael)
  • 4 Gall eich personoliaeth effeithio’n ddifrifol ar eich gwariant
  • 5 Deall y grymoedd marchnata sy’n gallu effeithio ar ein gwariant
  • 6 Model gwneud penderfyniadau i gymryd rheolaeth o benderfyniadau gwariant
  • 7 Cwis hanner amser
  • 8 Pam ydyn ni’n prynu yswiriant?
  • 9 Cymhwyso Camau 1 a 2 y model gwneud penderfyniadau i yswiriant
  • 10 Cymhwyso Camau 3 a 4 y model gwneud penderfyniadau i yswiriant
  • 11 Ffonau symudol ac yswiriant
  • 12 Siopa ar-lein
  • 13 Bod yn siopwr doethach ar-lein
  • 14 Cwis diwedd sesiwn
  • 15 Crynodeb o Sesiwn 1
  • Glossary
  • References
  • Acknowledgements
  • Sesiwn2Sesiwn 2: Cyllidebu a threthi
  • Cyflwyniad
  • 1 Incwm a threthi
  • 2 Deall treth incwm
  • 3 Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG)
  • 4 Cwis hanner amser
  • 5 Deall codau treth
  • 5.1 Oes angen i mi lenwi ffurflenni treth incwm?
  • 6 Pam mae angen i mi gyllidebu?
  • 7 Ochr incwm y gyllideb
  • 8 Troi at ochr gwario'r gyllideb
  • 9 Llunio eich cyllideb
  • 10 Eich cyllideb eich hun
  • 11 Lleihau eich gwariant
  • 12 Cwis diwedd sesiwn
  • 13 Crynodeb o Sesiwn 2
  • Glossary
  • Acknowledgements
  • Sesiwn3Sesiwn 3: Benthyca arian
  • Cyflwyniad
  • 1 Y cynnydd mewn benthyca yn y DU
  • 2 Dyled dda o’i chymharu â dyled ddrwg
  • 3 Asiantaethau gwirio credyd a’ch hanes credyd
  • 3.1 Sut mae eich hanes credyd yn cael ei grynhoi
  • 3.2 Sut mae rhoi hwb i’ch teilyngdod credyd
  • 3.3 Awgrymiadau da i helpu eich teilyngdod credyd
  • 4 Cwis hanner amser
  • 5 Pwy yw’r rhoddwyr benthyciadau?
  • 6 Yr archfarchnad ddyledion: dod i adnabod y cynhyrchion
  • 7 Faint mae’n gostio i fenthyca arian?
  • 7.1 Cyfradd Ganrannol Flynyddol (APR): y cymharydd allweddol ar gyfer penderfyniadau benthyca
  • 7.2 Gosod cyfraddau llog a rôl Banc Lloegr
  • 8 Benthyca cost isel a chost uchel
  • 9 Cwis diwedd sesiwn
  • 10 Crynodeb o Sesiwn 3
  • Glossary
  • Acknowledgements
  • Sesiwn4Sesiwn 4: Deall morgeisi
  • Cyflwyniad
  • 1 Cael morgais: faint ydw i’n gallu ei fenthyca?
  • 1.1 Yr eiddo dan sylw a phwysigrwydd ‘benthyciad mewn cymhariaeth â gwerth’
  • 1.2 Ad-daliad neu log yn unig
  • 1.3 Cyfradd sefydlog neu gyfradd amrywiadwy?
  • 2 Cwis hanner amser
  • 3 Dewisiadau morgais: morgeisi gwrthbwyso, hyblyg a chludadwy
  • 4 Rheoli eich morgais: gordalu
  • 4.1 Symud i gynnig arall
  • 4.2 Gadael morgais cyfradd sefydlog
  • 5 Costau eraill cysylltiedig â phrynu eiddo
  • 6 Morgeisi: deall a rheoli’r risgiau
  • 7 Cwis diwedd sesiwn
  • 8 Crynodeb o Sesiwn 4
  • Glossary
  • References
  • Acknowledgements
  • Sesiwn5Sesiwn 5: Cynilo a buddsoddi
  • Cyflwyniad
  • 1 Pam ddylen ni gynilo ar gyfer y dyfodol?
  • 1.1 Y gwahaniaeth rhwng cynilo a buddsoddi
  • 2 Problem cynilo’r DU
  • 3 Yr archfarchnad cynilion: Pa fath o gyfrifon alla i eu cael?
  • 3.1 Beth am Fondiau Premiwm?
  • 4 Yr archfarchnad cynilion: A ddylech chi gael ISA?
  • 4.1 ISAs ar gyfer eich cartref cyntaf neu eich ymddeoliad
  • 5 Yr archfarchnad cynilion: Deall llog a threth
  • 6 Yr archfarchnad cynilion: rhai pwyntiau terfynol
  • 7 Mae arian mewn cyfrif cynilo bron bob amser yn ddiogel
  • 8 Llunio eich strategaeth cynilion
  • 9 Cwis hanner amser
  • 10 Buddsoddiadau - ochr fwy peryglus cynilo (ond un gwerth chweil o bosibl)
  • 11 Deall cyfranddaliadau
  • 12 Deall bondiau
  • 13 Deall nwyddau
  • 14 Deall buddsoddi mewn eiddo
  • 15 Deall cronfeydd buddsoddi
  • 16 Strategaethau buddsoddi: sut i reoli eich risg
  • 17 Deall cynnyrch cymar-i-gymar
  • 18 A oes angen cyngor ariannol arnaf wrth ddewis buddsoddiad neu a ddylwn i fynd ati ar fy mhen fy hun?
  • 19 Cwis diwedd sesiwn
  • 20 Crynodeb o Sesiwn 5
  • Glossary
  • References
  • Acknowledgements
  • Sesiwn6Sesiwn 6: Cynllunio ar gyfer ymddeoliad
  • Cyflwyniad
  • 1 Sut mae gwariant yn newid yn nes ymlaen mewn bywyd?
  • 2 Pensiynau’r wladwriaeth
  • 2.1 Faint mae pensiwn y wladwriaeth yn ymestyn?
  • 3 Cynlluniau pensiwn galwedigaethol
  • 3.1 Cynlluniau galwedigaethol: symud i bensiynau cyflog cyfartalog
  • 3.2 Cynlluniau galwedigaethol: fel cael codiad cyflog
  • 4 Cwis hanner amser
  • 5 Pensiynau personol: cynlluniau prynu arian
  • 5.1 Cynllunio eich pensiwn: y costau a’r risgiau
  • 6 Deall lwfansau treth pensiwn
  • 7 Beth fydda i’n gallu ei wneud gyda fy mhensiwn pan fydda i’n ymddeol?
  • 8 Chwyldro pensiynau 2015: rhyddhau mynediad at botiau pensiwn
  • 9 Dim digon yn eich cynllun pensiwn – yr opsiynau
  • 10 Cwis diwedd y cwrs
  • 11 Crynodeb o Sesiwn 6
  • Beth nesaf?
  • Eich barn chi
  • Glossary
  • References
  • Acknowledgements

Reviews

4 rating at OpenLearn based on 1 rating

Start your review of Academi Arian MSE

Never Stop Learning.

Get personalized course recommendations, track subjects and courses with reminders, and more.

Someone learning on their laptop while sitting on the floor.