Class Central is learner-supported. When you buy through links on our site, we may earn an affiliate commission.

The Open University

Mathemateg bob dydd 2

The Open University via OpenLearn

Overview

Mae bod â sgiliau da mewn mathemateg yn bwysig mewnbywyd beunyddiol. Yn wir, mae’n bosibl nad ydych wedi sylwi pa mor aml rydychyn defnyddio mathemateg o ddydd i ddydd. Mae’r cwrs hwn, sydd am ddim, yngyflwyniad i Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn mathemateg, ac mae wedi’i gynllunioi’ch ysbrydoli i wella eich sgiliau mathemateg presennol ac i’ch helpu i gofiounrhyw feysydd y gallech fod wedi’u hanghofio.Bydd gweithio drwy’r enghreifftiau a’r gweithgareddaurhyngweithiol yn y cwrs hwn yn eich helpu, ymhlith pethau eraill, i gyfrifofaint o baent y bydd ei angen arnoch ar gyfer addurno, a throsi arian, neusymud ymlaen yn eich gyrfa neu addysg bellach. I gwblhau’r cwrs hwn, bydd angeni chi ddefnyddio cyfrifiannell, papur a phen, a phrotractor.Bydd cofrestru ar y cwrs hwn yn cynnig y cyfle ichi ennill bathodyn digidol y Brifysgol Agored. Mae’r bathodyn yn ffordd dda o ddangos eich diddordeb yn y pwnc. Bydd yr hyn a ddysgwch drwy gwblhau’r cwrs o fudd mawr os hoffech gofrestru am gymhwyster ffurfiol. Pan fyddwch wedi cofrestru, gallwch reoli’ch bathodynnau digidol ar lein ar eich proffil OpenLearn. Hefyd, gallwch lawrlwytho ac argraffu eich Datganiad Cyfranogi OpenLearn, sydd hefyd yn dangos eich bathodyn.Mae’r cwrs hwn wedi’i lunio fel rhan o Gronfa Dysgu Hyblyg   336yr Adran Addysg, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru  337 a gyda chymorth caredig Dangoor Education  338, cangen addysgol The Exilarch’s Foundation.Ysgrifennwyd y cwrs hwn, sydd am ddim, gan Kerry Lloyd, Frances Hughes a Tracy Mitchell yng Ngholeg Cambria, mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru, Coleg Gwent, Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot a’r Brifysgol Agored, ac mewn cydweithrediad ag Joanne Davies, West Herts College, gan ddefnyddio deunyddiau o eiddo’r Open School Trust Ltd (yn masnachu fel y National Extension College) ac mewn partneriaeth â’r Bedford College Group a Middlesborough College.

Syllabus

  • Cyflwyniad a chanllawiau
  • Cyflwyniad a chanllawiau
  • Beth yw cwrs â bathodyn?
  • Sut i gael bathodyn
  • Sesiwn1Sesiwn 1: Gweithio gyda rhifau
  • Cyflwyniad
  • 1 Pedwar gweithrediad
  • 1.1 Mynegi gweddill fel degolyn
  • 1.2 Dehongli atebion wrth rannu
  • 1.3 Ymdrin â degolion
  • 2 Ymdrin â rhifau mawr
  • 2.1 Cyfrifiadau gyda rhifau mawr
  • 3 Talgrynnu
  • 3.1 Talgrynnu i ryw radd o gywirdeb
  • 3.2 Talgrynnu er mwyn brasamcanu ateb
  • 4 Cyfrifiadau aml-gam
  • 5 Rhifau negatif
  • 6 Termau mathemategol
  • 7 Ffracsiynau
  • 7.1 Symleiddio ffracsiynau
  • 7.2 Ysgrifennu un swm fel ffracsiwn o swm arall
  • 7.3 Ffracsiynau o symiau
  • 8 Canrannau
  • 8.1 Cyfrifo canran o swm
  • 8.2 Mynegi rhif fel canran o un arall
  • 8.3 Newid canrannol
  • 9 Ffracsiynau, degolion a chanrannau
  • 9.1 Trosi rhwng canrannau, degolion a ffracsiynau
  • 9.2 Newid ffracsiwn yn ganran
  • 9.3 Newid ffracsiwn yn ddegolyn
  • 10 Cymhareb
  • 10.1 Symleiddio cymarebau
  • 10.2 Datrys problemau cymhareb lle rhoddir y cyfanswm
  • 10.3 Datrys problemau cymhareb lle rhoddir cyfanswm un rhan o’r gymhareb
  • 10.4 Datrys problemau cymhareb lle rhoddir dim ond y gwahaniaeth rhwng y symiau
  • 10.5 Ffyrdd eraill o gymhwyso cymhareb
  • 11 Fformiwlâu
  • 11.1 Trefn gweithrediadau
  • 11.2 Fformiwlâu ar waith
  • 12 Gwirio’ch atebion
  • 13 Cwis Sesiwn 1
  • 14 Crynodeb o Sesiwn 1
  • Sesiwn2Sesiwn 2: Unedau mesur
  • Cyflwyniad
  • 1 Unedau mesur
  • 1.1 Trosi unedau mesur yn yr un system
  • 2 Trosi mathau o arian cyfred a mesuriadau rhwng systemau gwahanol
  • 2.1 Trosi mathau o arian cyfred
  • 2.2 Trosi unedau mesur rhwng systemau gwahanol
  • 3 Amser, amserlenni a chyflymder cyfartalog
  • 3.1 Cyfrifo gydag amser ac amserlenni
  • 3.2 Trosi unedau amser
  • 3.3 Cyflymder cyfartalog
  • 4 Tymheredd
  • 4.1 Fformiwlâu Celsius a Fahrenheit
  • 5 Darllen graddfeydd
  • 5.1 Enghreifftiau o raddfeydd
  • 5.2 Graddfeydd ac offer mesur
  • 5.3 Defnyddio graddfeydd trosi
  • 6 Cwis Sesiwn 2
  • 7 Crynodeb Sesiwn 2
  • Sesiwn3Sesiwn 3: Siapiau a gofod
  • Cyflwyniad
  • 1 Perimedr
  • 1.1 Perimedr siapiau syml
  • 1.2 Perimedrau siapiau â hydoedd sydd ar goll
  • 1.3 Cylchedd cylch
  • 2 Arwynebedd
  • 2.1 Arwynebedd siapiau syml
  • 2.2 Arwynebedd siapiau cyfansawdd
  • 2.3 Arwynebedd cylch
  • 3 Cyfaint
  • 4 Faint fydd yn ffitio?
  • 5 Lluniadau a chynlluniau wrth raddfa
  • 5.1 Dull a phroblemau lluniadau wrth raddfa
  • 6 Cwis Sesiwn 3
  • 7 Crynodeb Sesiwn 3
  • Sesiwn4Sesiwn 4: Trin data
  • Cyflwyniad
  • 1 Data arwahanol a di-dor
  • 2 Siartiau cyfrif, tablau amlder a thaflenni casglu data
  • 3 Siartiau bar
  • 3.1 Nodweddion siart bar
  • 3.2 Dehongli siartiau bar
  • 4 Siartiau cylch
  • 4.1 Lluniadu siartiau cylch
  • 4.2 Dehongli siartiau cylch
  • 5 Graffiau llinell
  • 5.1 Lluniadu graffiau llinell
  • 5.2 Dehongli graffiau llinell
  • 6 Cymedr, canolrif, modd ac amrediad
  • 6.1 Amrediad
  • 6.2 Cyfartaledd cymedrig
  • 6.3 Canfod y cymedr o set o ddata
  • 6.4 Canfod y cymedr o dabl amlder
  • 6.5 Cyfrifo’r canolrif
  • 6.6 Cyfrifo’r modd
  • 6.7 Dewis y cyfartaledd gorau
  • 7 Tebygolrwydd
  • 8 Cwis diwedd y cwrs
  • 9 Crynodeb o Sesiwn 4
  • 10 Dod â phopeth ynghyd
  • 11 Y camau nesaf
  • Cydnabyddiaeth

Reviews

3 rating at OpenLearn based on 1 rating

Start your review of Mathemateg bob dydd 2

Never Stop Learning.

Get personalized course recommendations, track subjects and courses with reminders, and more.

Someone learning on their laptop while sitting on the floor.